Grŵp Trawsbleidiol ar Hinsawdd, Natur a Llesiant

Cross Party Group on Climate, Nature and Wellbeing

 

 

17:00 – 18:00

16.03.2023

 

Cyfarfod rhithwir ar Zoom

Virtual meeting over Zoom

1.    Croeso a chyflwyniadau

Welcome and introduction

Delyth Jewell AS

 

2.    Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Minutes of the last meeting

Delyth Jewell AS

3.    Judith Musker Turner, Cyngor Celfyddydau Cymru, diweddariad ar waith cyfiawnder hinsawdd a Rhaglen Natur Greadigol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru

Judith Musker Turner, Arts Council Wales, Update on climate justice work and Creative Nature Programme with National Resources Wales

 

4.    Lewis Brace, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ‘Effeithiau iechyd a lles newid hinsawdd yng Nghymru’ – Asesiad cynhwysfawr o’r Effaith ar Iechyd

Lewis Brace, Public Health Wales, ‘The health and wellbeing impacts of climate change in Wales’ – a comprehensive Health Impact Assessment

5.    Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Youth Climate Ambassadors for Wales 

6.    Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf

Delyth Jewell AS

Mater arall

 

Yn bresennol:Antonia Fabian (AF), Becky Nicholls (BN), Catrin James (CJ), Delun Gibby (DG), Emily Darney (ED), Judith Musker Turner (JMT), Kathryn Speedy (KS), Kirsty Campbell (KC), Laura Haig (LHa), Laura Hudson (LHu), Lewis Brace (LB), Luke Jefferies (LJ), Madelaine Phillips (AS), Molly Hucker (MH), Ollie John (OJ), Oscar Williams (OW), Zak Viney (ZV)

Aeoldau o’r Senedd yn bresennol:Delyth Jewell AS (DJ), Ryland Doyle (RD) – ar ran Mike Hedges AS

 

 

 

 

 

Croeso a chyflwyniad / Welcome and introduction – Delyth Jewell AS

Croesawodd Delyth Jewell AS y grŵp a chyflwynodd aelodau newydd i’r grŵp.

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf / Minutes of the last meeting – Delyth Jewell AS

 Cynigiwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf gan CJ ac fe’u heiliwyd gan Delyth Jewell MS. Ni wnaed unrhyw ddiwygiadau.

 

Cyngor Celfyddydau Cymru, diweddariad ar waith cyfiawnder hinsawdd a Rhaglen Natur Greadigol gyda Chyfoeth Cenedlaethol Cymru  / Arts Council Wales, Update on climate justice work and Creative Nature Programme with National Resources Wales – Judith Musker Turner

 

Mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o’r enw Rhaglen Natur Greadigol sydd â’r nod o gyflawni amcanion cydfuddiannol o fewn y bartneriaeth a dwyn cymunedau ledled Cymru ynghyd. Y nod yw meithrin dyfodol mwy cynaliadwy trwy ymgysylltu â materion allweddol fel yr argyfwng hinsawdd a natur.

 

Mae’r celfyddydau yn darparu ffyrdd creadigol o ymgysylltu â phobl a chymunedau.

Gyda rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, gall y celfyddydau helpu i godi ymwybyddiaeth, canfod ffyrdd newydd o fynegi a dod o hyd i atebion i'r problemau sy'n ein hwynebu. At hynny, mae natur yn ffynhonnell fawr o ysbrydoliaeth i artistiaid.

 

Mae'r bartneriaeth am wella mynediad i amgylcheddau naturiol a'r celfyddydau i bobl – yn enwedig grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – fel y gallan nhw elwa ar y manteision iechyd a llesiant y mae’r rhain yn eu cynnig.

 

Y ddwy brif agwedd ar y rhaglen dros y flwyddyn ddiwethaf oedd Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol a datblygu cynllun ar gyfer cyfiawnder hinsawdd a’r celfyddydau ar gyfer Cyngor y Celfyddydau.

 

Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn grant i wyth artist ymgymryd â chymrodoriaeth blwyddyn o hyd ar themâu sy’n ymwneud â tharfu ar y meddylfryd cyfredol ynghylch systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth, ac ymgysylltu pobl â’r angen i newid ffordd o fyw i leihau allyriadau.

Erbyn hyn, mae’r cam hwn o’r rhaglen yn dod i ben a bydd Cyngor Celfyddydau Cymru a’u bryd ar wneud iteriad arall o Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, gan ddibynnu ar gadarnhau cyllid.

 

Ffocws partneriaeth CCC gyda CNC eleni fu datblygu cynllun ar gyfer cyfiawnder hinsawdd a’r celfyddydau.

Arweiniodd hynny at gynnwys cyfiawnder hinsawdd fel un o'r chwe egwyddor a nodwyd yn CCC.

 

Mae CCC yn adolygu eu cynllun strategol newydd ac wedi cynnull grŵp amrywiol o tua 100 o bobl i helpu i ddatblygu'r strategaeth gan ddefnyddio elfennau o gyd-ddylunio. Dros y tri mis diwethaf maent wedi cynnal 7 gweithdy gyda'r grŵp cyd-ddylunio.

 

Mae nodau’r strategaeth fel a ganlyn:

1.        Cefnogi sector y celfyddydau i ddod yn amgylcheddol gynaliadwy ac addasu i newid hinsawdd.

2.       Galluogi’r celfyddydau i chwarae rhan allweddol wrth ysbrydoli’r trawsnewid cymdeithasol ac economaidd sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac i gyrraedd dyfodol carbon sero sy’n ddiogel, yn gyfiawn ac yn wydn.

 

Y camau nesaf ar hyn yw ymgorffori’r adborth o’r gweithdy cyd-ddylunio terfynol a pharhau i adolygu’r drafft yn fewnol, hyd nes ei fod yn barod i’w rannu’n fwy cyhoeddus.

 

Mae yna ddigwyddiad ar 30 Mawrth yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, sy'n dathlu diwedd y flwyddyn hon o'r Rhaglen Natur Greadigol.

 

Cyflwynodd OW ei hun hun fel Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid. Cyflwynodd MH ei hun fel actifydd hinsawdd gyda Fridays for Future.

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru, 'Effeithiau iechyd a lles newid hinsawdd yng Nghymru' – Asesiad Effaith ar Iechyd / Public Health Wales, ‘The health and wellbeing impacts of climate change in Wales’ – a comprehensive Health Impact Assessment – Lewis Brace

 

Siaradodd LB am waith Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru ac ar yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ar y Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru, gafodd ei roi ar waith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019 ac a lywiwyd gan Grŵp Cynghori Strategol aml-asiantaeth.

 

Disgwylir i'r adroddiad llawn gael ei gyhoeddi ym mis Mai eleni. Roedd y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i lywio’r Uned Gymorth yn cynnwys adolygiad systematig o ddeunydd ysgrifenedig, data iechyd y boblogaeth, cyfweliadau a gweithdai gydag amrywiaeth o randdeiliaid a gynhaliwyd yn 2020.

 

Y nod yw hysbysu llunwyr polisi, cyrff cyhoeddus, asiantaethau'r trydydd sector a'r sector preifat am yr effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl ar iechyd a llesiant ac anghydraddoldeb strwythurol a all ddeillio o newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

 

Yr amcanion oedd nodi sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar fywydau pobl, gan ganolbwyntio ar effeithiau ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt ac anghydraddoldebau.

 

Bydd y sleidiau yn cael eu rhannu gyda chofnodion y cyfarfod.

 

Myfyriodd DJ ar y rhyng-gysylltiadau rhwng effeithiau byd-eang newid yn yr hinsawdd a'r effeithiau ar lefel unigol.

 

Yn ôl OJ, bydd yr Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn adnodd defnyddiol iawn.

 

Cododd DJ waith y Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid sydd ar hyn o bryd yn edrych ar statws ffoaduriaid hinsawdd.

 

Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru / Youth Climate Ambassadors for Wales – Emily Darney ac Oscar Williams

 

Mae’r tair blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn fel a ganlyn:

1.    Gweithredu ar yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar gamau unigol y gall pobl eu cymryd.

2.    Pobl frodorol a sut i gryfhau eu lleisiau, gan rannu pwysigrwydd eu gwaith yn fyd-eang

3.    Ffoaduriaid hinsawdd; nid yw hwn yn statws sy'n cael ei gydnabod ar hyn o bryd, felly bydd deiseb yn cael ei lansio er mwyn i Senedd y DU geisio cyfreithloni'r statws, er mwyn caniatáu statws ffoadur ar sail newid hinsawdd. Bydd angen i’r ddeiseb gael 100,000 o lofnodion i sicrhau dadl yn Senedd y DU.

 

Mae’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid wedi lansio cylchlythyr yn ddiweddar; gallwch gofrestru ar ei gyfer yma.

 

Soniodd OW ei fod wedi ymuno yn ddiweddar ac roedd hyd a lled yr hyn y mae'r grŵp wedi'i gyflawni ers ei ffurfio wedi creu argraff fawr arno.

 

Lleisiodd DJ ei chefnogaeth i 'Ffoadur Hinsawdd' ddod yn statws cydnabyddedig a thrwy rannu straeon, gallai hynny ennyn ymdeimlad o empathi mewn pobl.

 

Soniodd ED y bydd yn rhaid i bobl hefyd symud o rai ardaloedd yng Nghymru oherwydd bod lefel y môr yn codi.

 

Dywedodd JMT y byddai Cyngor Celfyddydau Cymru yn awyddus i gefnogi'r ymgyrch.

 

Mynegodd DG gefnogaeth i waith y Llysgenhadon.

 

Rhoddodd LJ y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am waith Prifysgol Abertawe, sy’n sefydlu grŵp ymchwil sy’n canolbwyntio’n benodol ar lesiant a chynaliadwyedd pobl, cymunedau, lleoedd, a’r blaned. Soniodd fod y brifysgol yn dda am gysylltu â grwpiau eraill i gasglu data os oedd angen cymorth ar unrhyw grwpiau gyda hyn. Bydd gwefan y grŵp ar-lein tua adeg y Pasg.

 

Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf / Any other business and date of next meeting – Delyth Jewell AS

 

Nid oedd unrhyw fater arall.

 

Mae dyddiad y cyfarfod nesaf wedi’i bennu ar gyfer 4 Mai rhwng 17:00 ac 18:00.